Improving the contribution of invasion science to policy and management

Hello / Helo! This event from the Invasion Science Special Interest Group will bring together academics, practitioners and policy makers to discuss and share ideas across sectors of invasion science.

The Invasion Science Group is holding its Special Interest Group event of 2023 in Llandudno, Wales. This is being jointly developed and delivered with the Wales Resilient Ecological Network (WaREN)* and is being held to coincide with the Stakeholder Forum on Non-Native Species hosted by GB NNSS**, which will take place the following day at the same location. We also want to extend special thanks to event sponsor APEM***.

The BES one day in-person event will bring together academics, practitioners and policy makers to discuss and share ideas between different sectors of invasion science. The day will consist of invited speakers, early career networking sessions, updates on GB policy and lightning talks from researchers and practitioners (from abstract submission).

Please email: invasion@britishecologicalsociety.org to join the BES Invasion SIG mailing list.

To read this page in Welsh, please scroll down.

Invited speakers

We will have two invited speakers at the event: Dr Emily Smith with the Angling Trust and Professor David Aldridge from St. Catharine’s College.

Dr Emily Smith is the Environment Manager at the Angling Trust. She specialises in freshwater invasive species and practical biosecurity to prevent the accidental spread of invasive species. Emily has a PhD from University College London where she investigated recreational angling as an unintentional pathway for invasive species spread in GB. She sits on several national and international groups to advance invasive species management and policy, has given evidence at the GB Environmental Audit Committee on invasive species, chaired the Wildlife Countryside Link invasive group (2019-2022) and helped to set up an annual invasive species funding for the angling community through Environment Agency fishing licence sales.

Professor David Aldridge is an applied freshwater ecologist, with a focus on bivalve molluscs. He is particularly interested in the conservation of rare species and threatened ecosystems, the biology and control of invasive species and the use of biological processes to develop sustainable remediation and monitoring programmes for degraded waterbodies. He collaborates with the water industry, government agencies and NGOs. Prof Aldridge is also the director and co-founder of BioBullets Ltd., a company that has developed a novel and environmentally-friendly way of controlling some of the world’s biggest aquatic pests. He also leads on the BioRISC Initiative (Biosecurity Research Initiative at St Catharine’s), which uses an innovative combination of approaches to build, integrate and synthesise evidence to provide a hub for cutting edge, evidence-based information about existing and emerging biological security risks and interventions.

Event agenda

The event agenda is now available in English and Welsh.

Registration

Registration for the event is now closed.

Abstract submission

The call for abstracts is now closed.

Stakeholder Forum

Participants of the BES event are encouraged to stay on to attend the free GB Stakeholder Forum on Non-native Species on 21 June, which has taken place every year since the publication of the first GB Strategy for Non-native Species in 2008. The Forum provides an opportunity to learn about and engage with the strategic approach being taken to tackle invasive species across GB. Book a place by contacting nnss@apha.gov.uk.

Code of Conduct

The BES code of conduct can be found online at the link below.

Code of Conduct

*The Wales Resilient Ecological Network (WaREN) project is developing a collaborative and sustainable approach to tackling invasive species across Wales. This is being achieved by improving linkages between stakeholders such as Local Action Groups (LAGs), and by sharing best practice informed by advances in invasion science. WaREN is also increasing awareness of invasive species through effective public engagement and science communication. WaREN is funded by the Welsh Government Sustainable Management Scheme. More information here: https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/waren

**The GB Non-native Species Secretariat (GB NNSS) based at the Animal and Plant Health Agency has responsibility for helping to coordinate the approach to invasive non-native species in Great Britain. The NNSS is responsible to a Programme Board which is chaired by Defra, Scottish Government and Welsh Government and represents the relevant governments and agencies of England, Scotland and Wales. More information here: https://www.nonnativespecies.org/

***APEM is a global environmental and geospatial consultancy, providing a comprehensive range of integrated bespoke services for clients across the UK, Europe, the US and Australia. APEM has a dedicated invasive species team covering terrestrial, freshwater and marine environments and providing services such as monitoring and surveillance, biosecurity, risk assessments and control and eradication work to a broad range of clients, including government bodies, port authorities and water companies. Read more here: https://www.apemltd.com/

—–

Helo!

Mae Grŵp Gwyddoniaeth Ymlediad Cymdeithas Ecolegol Prydain (BES) yn cynnal ei ddigwyddiad Grŵp Diddordeb Arbennig 2023. Mae hwn yn cael ei ddatblygu a’i gyflwyno ar y cyd â Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN)* ac mae’n cael ei gynnal i gyd-fynd â’r Fforwm Rhanddeiliaid ar Rywogaethau Anfrodorol sy’n cael ei gynnal gan GB NNSS**, a fydd yn digwydd y diwrnod canlynol yn yr un lleoliad. Rydyn ni hefyd eisiau estyn ein diolch arbennig i noddwr y digwyddiad, sef APEM ***.

Bydd digwyddiad undydd wyneb yn wyneb BES yn dod ag academyddion, ymarferyddion a llunwyr polisïau at ei gilydd i drafod a rhannu syniadau rhwng y gwahanol sectorau gwyddoniaeth ymlediad. Bydd y diwrnod yn cynnwys siaradwyr gwadd, sesiynau rhwydweithio dechrau gyrfa, diweddariadau ar bolisi Prydain Fawr a sgyrsiau mellt gan ymchwilwyr ac ymarferyddion (o gyflwyniadau cryno).

Siaradwyr gwadd

Bydd dau siaradwr gwadd yn y digwyddiad ac rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi enw ein siaradwr cyntaf, sef Dr Emily Smith. Bydd manylion yr ail siaradwr gwadd yn cael eu cadarnhau yn fuan.

Dr Emily Smith yw Rheolwr yr Amgylchedd yn yr Ymddiriedolaeth Bysgota. Mae hi’n arbenigo mewn rhywogaethau dŵr croyw ymledol a bioddiogelwch ymarferol i atal lledaenu rhywogaethau ymledol yn ddamweiniol. Mae gan Emily PhD o Goleg Prifysgol Llundain lle bu’n gwneud ymchwil i bysgota hamdden fel llwybr anfwriadol ar gyfer rhywogaethau ymledol ym Mhrydain Fawr. Mae’n aelod o sawl grŵp cenedlaethol a rhyngwladol i hyrwyddo rheolaeth a pholisïau ar gyfer rhywogaethau ymledol, mae wedi cyflwyno tystiolaeth ym Mhwyllgor Archwilio Amgylcheddol Prydain Fawr ar rywogaethau ymledol, wedi cadeirio’r grŵp ymledol Cyswllt Cefn Gwlad Bywyd Gwyllt (2019-2022) ac wedi helpu i sefydlu cyllid rhywogaethau ymledol blynyddol ar gyfer y gymuned bysgota drwy werthiant trwyddedau pysgota Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae’r Athro David Aldridge yn ecolegydd dŵr croyw cymhwysol, gyda ffocws ar folysgiaid cregyn deuglawr. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cadwraeth rhywogaethau prin ac ecosystemau dan fygythiad, bioleg a rheolaeth rhywogaethau ymledol a’r defnydd o brosesau biolegol i ddatblygu rhaglenni adfer a monitro cynaliadwy ar gyfer cyrff dŵr sydd wedi’u diraddio. Mae’n cydweithio â’r diwydiant dŵr, asiantaethau’r llywodraeth a chyrff anllywodraethol. Mae’r Athro Aldridge hefyd yn gyfarwyddwr a chydsylfaenydd BioBullets Ltd., cwmni sydd wedi datblygu ffordd newydd ac amgylcheddol gyfeillgar o reoli rhai o blâu dyfrol mwyaf y byd. Mae hefyd yn arwain ar y Fenter BioRISC (Menter Ymchwil Bioddiogelwch yn St Catharine’s), sy’n defnyddio cyfuniad arloesol o ddulliau i adeiladu, integreiddio a chyfuno tystiolaeth i ddarparu canolbwynt ar gyfer gwybodaeth flaengar sy’n seiliedig ar dystiolaeth am risgiau ac ymyriadau diogelwch biolegol presennol a newydd.

Mae’r cofrestru ar gyfer y digwyddiad ar agor bellach a bydd yn cau ar 5 Mehefin 2023.

Cofrestrwch yma

Byddwch yn ymwybodol hefyd, wrth ofyn am ad-daliad, y byddwch yn cael ad-daliad o bris tocyn y digwyddiad, yn amodol ar ein polisi ad-daliad, ond yn anffodus ni fyddwch yn cael ad-daliad o ffi Eventbrite.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn aelod o BES i brynu tocyn cyfradd aelod BES, gallwch gael rhagor o wybodaeth ac ymuno yma. Mae’r aelodaeth yn dechrau o £24, neu gallwch gael aelodaeth am ddim am 12 mis os ydych chi’n fyfyriwr israddedig, myfyriwr meistr neu yn eich blwyddyn gyntaf yn gwneud PhD.

I weld polisi preifatrwydd Cymdeithas Ecolegol Prydain cliciwch yma.

Mae’r cais am grynodebau ar gyfer y sgyrsiau mellt ar agor bellach. Bydd y rhain yn sgyrsiau byr (~5 munud). Rydyn ni’n annog y rhai sy’n gweithio ym maes rheolaeth ymarferol a pholisi, yn ogystal ag ymchwil academaidd, i gyflwyno crynodebau ar gyfer y sgyrsiau hyn. I gyflwyno crynodeb, rhowch deitl eich sgwrs a 5 i 7 pwynt bwled yn amlinellu eich ymchwil / gwaith mewn dim mwy na 250 o eiriau. Anfonwch y crynodebau i invasion@britishecologicalsociety.org a chynnwys ym Mhwnc yr e-bost y testun: ‘Abstract Submission SIG Event’. Nodwch fod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodeb wedi ei ymestyn i 15fed o Fai 2023.

Byddwn yn hongian posteri i’w gweld drwy gydol y digwyddiad, er na fydd sesiwn poster ffurfiol yn cael ei gynnal. Rydyn ni’n annog pobl i ailddefnyddio posteri perthnasol a gyflwynwyd mewn cynadleddau blaenorol yn hytrach na chreu rhai newydd ar gyfer y digwyddiad hwn. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod â phoster, anfonwch e-bost at invasion@britishecologicalsociety.org a chynnwys ym Mhwnc yr e-bost y testun: Poster SIG Event’. Nodwch fod y dyddiad cau ar gyfer ar gyfer mynegi diddordeb mewn hongian poster wedi ei ymestyn i 15fed o Fai 2023.

Fforwm Rhanddeiliaid – Anogir cyfranogwyr y digwyddiad BES i aros ymlaen i fynychu Fforwm Rhanddeiliaid am ddim Prydain Fawr ar Rywogaethau Estron ar 21 Mehefin, sydd wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers cyhoeddi Strategaeth gyntaf Prydain Fawr ar gyfer Rhywogaethau Estron yn 2008. Mae’r Fforwm yn cynnig cyfle i ddysgu am ac ymgysylltu â’r dull strategol sy’n cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol ledled Prydain Fawr. Archebwch le drwy gysylltu ag nnss@apha.gov.uk.

Anfonwch e-bost i: invasion@britishecologicalsociety.org i ymuno â rhestr bostio BES Invasion SIG.

*Mae prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) yn datblygu dull cydweithredol a chynaliadwy o fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol ledled Cymru. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy wella cysylltiadau rhwng rhanddeiliaid fel Grwpiau Gweithredu Lleol (GGLl), a thrwy rannu arfer gorau sy’n seiliedig ar ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth ymlediad. Mae WaREN hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol drwy ymgysylltu’n effeithiol â’r cyhoedd a chyfathrebu gwyddoniaeth. Mae prosiect WaREN yn cael ei gyllido gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Mwy o wybodaeth yma: https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/waren

**Mae Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr (GB NNSS), sydd wedi’i lleoli yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yn gyfrifol am helpu i gydlynu’r dull o weithredu gyda rhywogaethau estron ymledol ym Mhrydain Fawr. Mae’r NNSS yn atebol i Fwrdd Rhaglen sy’n cael ei gadeirio gan Defra, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru ac mae’n cynrychioli llywodraethau ac asiantaethau perthnasol Cymru, Lloegr a’r Alban. Mwy o wybodaeth yma: https://www.nonnativespecies.org/

***Mae APEM yn ymgynghoriaeth amgylcheddol a geo-ofodol fyd-eang sy’n darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau pwrpasol, integredig i gleientiaid ledled y DU, Ewrop, UDA ac Awstralia. Mae gan APEM dîm rhywogaethau ymledol pwrpasol sy’n cwmpasu amgylcheddau daearol, dŵr croyw a morol ac sy’n darparu gwasanaethau fel monitro a goruchwylio, bioddiogelwch, asesiadau risg a gwaith rheoli a dileu i ystod eang o gleientiaid, gan gynnwys cyrff y llywodraeth, awdurdodau porthladdoedd a chwmnïau dŵr. Darllenwch fwy yma: https://www.apemltd.com/